|
|
Y mae Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn ysgol gyfun gymysg a agorodd yn 1971. Mae wedi'i lleoli ar y campws Penlan o fewn
tref Aberhonddu, ger Coleg Lleol Addysg Bellach a Canolfan Hamdden. Mae'n gwasanaethu poblogaeth o Aberhonddu
a'r pentrefi cyfagos. Mae tua 900 o ddisgyblion ar y gofrestr, rhwng 11 ac 18 oed, o'r rhain y mae dros 140 yn y
Chweched Dosbarth. Read More
Nod Yr Ysgol
Nod cyffredinol yr ysgol yw galluogi ei disgyblion i ddod yn aelodau hunan-ddibynnol, cyfrifol ac hyderus o
gymdeithas, sydd â'r cymwysterau sydd eu hangen i ddilyn yr yrfa o'u dewis. Neges gan y Pennaeth.
Hysbysiad
Strategaeth Moderneiddio Ysgolion Uwchradd
Mae Bwrdd Cyngor Sir Powys wedi cytuno i adolygiad manwl o addysg uwchradd ac addysg ôl-16 yn y sir mewn ymateb i ostyngiad yn nifer y disgyblion a phwysau ariannol difrifol ar ysgolion uwchradd.
Meddai Jeremy Patterson y Prif Weithredwr: “Fel Awdurdod, ein dyhead yw datblygu sector addysg uwchradd ac ôl-16 a sector hyfforddiant sy´n cynnig y ddarpariaeth addysg ddwyieithog gorau gydag amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu, sydd wedi'u cefnogi gan gyfleusterau a thechnoleg o´r radd flaenaf, a fydd yn galluogi pob dysgwr ym Mhowys i ddatblygu eu sgiliau ar y lefel uchaf.
“Dim ond ar y 5ed o Ionawr y cafodd yr adolygiad ei gymeradwyo ac felly mae ond megis cychwyn. Mae Swyddogion wedi bod yn datblygu Rhaglen Amlinellol Strategol sy´n disgrifio cryfderau a gwendidau'r sector ar hyn o bryd; mae´n esbonio pam mae angen am newid, gan gynnwys darpariaeth addysgol yn y Gymraeg a´r Saesneg; ac mae´n ystyried a oes dulliau gwahanol o ddysgu a fyddai o fudd i ddysgwyr. Ar yr un pryd, bydd yr adolygiad hefyd yn sicrhau bod unrhyw fodel o addysg uwchradd ac addysg ôl-16 yn ariannol ymarferol ar gyfer y 25 mlynedd nesaf.
“Bydd rhaid datblygu unrhyw newidiadau o´r fath mewn ymgynghoriad llawn gyda phenaethiaid, cyrff llywodraethol, staff ysgolion, rhieni, disgyblion, aelodau etholedig, cymdeithasau proffesiynol, sefydliadau partner a´r gymuned ehangach. Mae rhaglen lawn o ymgynghori ac ymgysylltu yn cael ei gynllunio. Bydd asesiad manwl o ystod o atebion posibl, gan gynnwys y modelau hynny sy´n cael eu crybwyll yn y Rhaglen Amlinellol Strategol, yn ogystal ag opsiynau eraill. Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud. Ni fydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu gwneud hyd nes y bydd y broses ymgynghori llawn wedi cael ei gwblhau ar bob cam.
“Er bod fersiwn o´r Rhaglen Amlinellol Strategol wedi cael ei ryddhau cyn amser ac yn hysbys, mae´r Cyngor yn parhau´n ymroddedig i´r adolygiad o addysg uwchradd ac addysg ôl-16. Mae´r Cyngor yn sefydlu strwythurau rheoli prosiect a fydd yn caniatâu ymgynghori llawn a thryloyw i gymryd lle, ac er mwyn sicrhau y gallwn gyflawni ein dyhead er lles yr holl ddysgwyr ym Mhowys.
Mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo at yr angen i foderneiddio ein sector addysg os ydym i ddarparu´r addysg gorau posibl ar gyfer ein pobl ifanc.
Diwedd
Diweddarwyd 23/02/2010 
|